Cymdeithas Hynafiaethau Cymru

Croeso

Croeso i wefan Cymdeithas Hynafiaethau Cymru

Dyddiadau i'w Nodi

Amdano Cymdeithas Hynafiaethau Cymru
Y brif gymdeithas ar gyfer astudio archaeoleg a hanes Cymru a'r Gororau

Sefydlwyd Cymdeithas Hynafiaethau Cymru yn 1846 ac mae’n elusen gofrestredig (rhif 216249). Ei hamcanion elusennol yw i ‘archwilio, cadw a dehongli cofadeiliau hynafol ac olion o hanes, iaith, agweddau, arferion, celfyddydau a diwydiannau Cymru a’r Gororau ac i addysgu’r cyhoedd ynghylch materion o’r fath’.

Ers ei sefydlu mae'r Gymdeithas wedi cyhoeddi cylchgrawn blynyddol, Archaeologia Cambrensis (sydd yn rhad ac am ddim i aelodau) a gynhwysodd erthyglau gan ysgolheigion blaenaf y dydd ar ddogfennau hanesyddol, hanes archeolegol, hanes teuluol a henebion, darganfyddiadau a chloddiadau archeolegol.

Ymunwch â Cymdeithas Hynafiaethau Cymru

Newyddion