Am y Gymdeithas
Sefydlwyd Cymdeithas Hynafiaethau Cymru yn 1846 ac mae’n elusen gofrestredig (rhif 216249). Ei hamcanion elusennol yw i ‘archwilio, cadw a dehongli cofadeiliau hynafol ac olion o hanes, iaith, agweddau, arferion, celfyddydau a diwydiannau Cymru a’r Gororau ac i addysgu’r cyhoedd ynghylch materion o’r fath’.
Ers ei sefydlu mae’r Gymdeithas wedi cyhoeddi cylchgrawn blynyddol, Archaeologia Cambrensis (sydd yn rhad ac am ddim i aelodau) a gynhwysodd erthyglau gan ysgolheigion blaenaf y dydd ar ddogfennau hanesyddol, hanes archeolegol, hanes teuluol a henebion, darganfyddiadau a chloddiadau archeolegol.
Ynghyd â’i swyddogaeth fel cyhoeddwr cofnodion hanesyddol pwysig a syniadau newydd, gwelodd y Gymdeithas ei hun erioed yn gymdeithas o eneidiau hoff cytûn sydd yn mwynhau rhannu eu gwybodaeth a’u brwdfrydedd am y gorffennol. Bu CYFARFODYDD HAF y gymdeithas yn gynulliadau nodedig iawn yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac maent yn dal i fod felly heddiw.
Mae’r Gymdeithas yn cynnal dau gyfarfod y flwyddyn, wythnos ynghanol yr haf a phenwythnos yn yr hydref, gan ymweld â safleoedd a henebion ym mhob rhan o Gymru ac weithiau yn Lloegr, Iwerddon a gwledydd eraill. Cynhelir Cynadleddau Pasg a darlithoedd ar faterion o ddiddordeb cyfoes mewn hanes ac archaeoleg bob yn ail flwyddyn. Trefnir hefyd ddarlith yn Gymraeg yn Eisteddfod Genedlaethol bob blwyddyn.
Ymwnâ’r Gymdeithas hefyd â hyrwyddo diddordeb yn y gorffennol ymysg yr ifainc drwy noddi gwobr i blant ysgol ar gyfer traethawd neu gywaith – gwobr Blodwen Jerman. Mae hefyd yn rhoi cymorthdaliadau bach bob blwyddyn ar gyfer ymchwil archeolegol a hanesyddol.
‘Out with the Cambrians’ – ymweliad i Strata Florida yn 1847