Dydd Mercher 7 Awst, 4:30pm, Pafiliwn y Cymdeithasau ar y Maes.
Efallai ei bod hi’n anodd credu i borslen gorau’r byd gael ei greu yn ardal yr Eisteddfod, ond dyna’r gwir…dewch i glywed hanes William Billingsley yn sefydlu Crochendy Nantgarw a stori ail-greu ei borslen rhyfeddol ar yr union safle 200 mlynedd yn ddiweddarch, a’r gobaith am y dyfodol. Bydd Cadeirydd Ymddiriedolaeth Crochendy Nantgarw, Dr Eurwyn Wiliam, yn adrodd yr hanes am 4.30 ar brynhawn Mercher 7 Awst ym Mhabell y Cymdeithasau.