Darlith Flynyddol y Gymdeithas: Dydd Mercher 6 Awst, 2025
Darlith Flynyddol y Gymdeithas: Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Wrecsam, 16.30 dydd Mercher 6 Awst, 2025. Bydd yr Athro Ann Parry Owen yn traethu ar ‘Fflyd o Eiriau – casgliad geiriau John Jones, Gellilyfdy (c. 1580-1657)’, casgliad sy’n cynnig ffenestr ddifyr ar fywyd a gwaith yng ngogledd-ddwyrain Cymru ar ddechrau’r 17eg ganrif.