Mae gweithgareddau’r gymdeithas yn cael eu rheoli gan Fwrdd o Ymddiriedolwyr sy’n ffurfio’r Pwyllgor Gweithredol.
Mae yna is-bwyllgorau gydag aelodau nad ydynt yn ymddiriedolwyr sy’n ymdrin â Chyfarfodydd, Cyhoeddiadau, Materion yn Ymwneud â’r Cyhoedd a Chyhoeddusrwydd.
Mae’r Ymddiriedolwyr yn atebol i’r aelodau yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a gynhelir yn ystod y Cyfarfod Haf bob blwyddyn.
Gellir gweld Cyfansoddiad y Gymdeithas yng nghefn cyfrol 151 o Archaeologia Cambrensis.
Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau at yr Ysgrifennydd Cyffredinol.