Mawrth 23, 2018

Cyhoeddiadau

Cyhoeddi Archaeologia Cambrensis yw gwaith amlycaf y Gymdeithas. Er 1846 pan oedd ef yr unig gychgrawn yn ymwenud â hanes a hynafiaethau Cymru, y mae wedi cyhoeddi adroddiadau ar yr holl waith pwysig a wneir ac wedi bod yn rheng flaen datblygiadau academaidd. Y mae’r cyfrolau cynnar lle y cyhoeddwyd llawer o ddogfennau hanesyddol gwreiddiol am y tro cyntaf, yn arbennig o bwysig. Hefyd cyhoeddwyd cloddiadau arwyddocaol a thrafodaethau ar destunau newydd o bwys megis archaeoleg diwydiannol a hanes garddio yn ystod y blynyddoedd diweddar.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am Archaeologia Cambrensis – Dyddiadur Cymdeithas Hynafiaethau Cymru.

Yn ogystal â’r cylchgrawn blynyddol, cyhoeddwyd Atodiadau, megis Parochialia Edward Llwyd a Tour through Anglesea Skinner (sydd bellach wedi ei ail_brintio’n breifat), ynghyd â chyfres o adroddiadau ar gloddiadau pwysig yng Nghymru, er enghraifft, cynhyrchwyd y Cambrian Monograph Series yn y 1970au a’r 1990au.

 

 

Cyhoeddiadau ar Werth