Mawrth 23, 2018

Grantiau a Gwobrau

Gwobr G. T. Clark

Mae’r Gymdeithas yn gweinyddu Cronfa Ymddiriedolaeth G. T. Clark, a sefydlwyd i goffau archaeolegydd enwog o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Dyfernir Gwobrau G. T. Clark i’r cyfraniadau mwyaf nodedig sydd wedi’u cyhoeddi i’r astudiaeth o hanes a hynafiaeth Cymru a’r Gororau dros y bum mlynedd diwethaf. Dyfarnwyd y gwobrau diwethaf yn 2012.


Yr ennillwyr yn 2017

Cronfa Ymchwil

Mae’r Gronfa Ymchwil yn bodoli er mwyn annog ymchwil o fewn maes diddordeb y Gymdeithas. Mae’n cynnwys teithio, gwaith maes, cloddio a gwasanaethau gwyddonol cysylltiedig, ymchwil hanesyddol, a dulliau addas eraill sydd o gymorth megis ffotograffiaeth, llungopïo, teipio, a pharatoi darluniau ar gyfer eu cyhoeddi. Fel arfer mae’r dyfarniadau rhwng £500 a £2000 ac fe’u cyfyngir i brosiectau sy’n ymwneud yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol â Chymru a’r Gororau. Dylid dychwelyd ffurflenni wedi’u llanw a chopïau (hyd at chwech os yn bosib) erbyn diwedd mis Hydref bob blwyddyn. Gellir cyflwyno ceisiadau hwyr cyn dechrau mis Ionawr, ond dim ond os nad yw’r dyraniad llawn wedi’i roi y bydd ceisiadau hwyr yn cael eu hystyried.

Ffurflen gais mewn ffurf Word.

Ffurflen gais mewn ffurf Adobe Acrobat.

Danfonwch y ffurflen i’r ysgrifennydd.

Cronfa Addysgiadol

Sefydlwyd y gronfa hon gan y Gymdeithas er mwyn rhoi grantiau i fyfyrwyr a phobl ifanc eraill o dan 25 oed sy’n mynychu astudiaethau neu weithgareddau archaeolegol, sy’n ymwneud yn benodol â Chymru a’r Gororau. Fel arfer mae grantiau tua £25–50 a’u bwriad yw i gynorthwyo i dalu am gostau llyfrau neu offer a thalu ffioedd, tanysgrifiadau neu unrhyw dreuliau eraill a ystyrir i fod yn addas. Ni chymhwysir grantiau tuag at gostau cloddio gan fod hyn yn dod o dan Gronfa Ymchwil y Gymdeithas. Dylid cyfeirio ceisiadau yn rhoi manylion llawn i’r Ysgrifennydd Cyffredinol presennol (rhoddir yr enw a chyfeiriad uchod).

Cysylltwch gyda’r ysgrifennydd am ffurflen gais.