Eisteddfodwyr!
A fydd Andrew Green yn medru ymdawelu o’i ddolur ar ôl traddodi ei ddarlith ‘Ystrad Fflur: sut mae cyflwyno safle hanesyddol i ymwelwyr?’ yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron eleni? Dewch i wrando ar y cyn-Lyfrgellydd Cenedlaethol ac awdur Cymru Mewn 100 Gwrthrych yn myfyrio dros ei brofiadau a’i ddyheadau fel Cadeirydd Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur wrth iddo gyflwyno Darlith Flynyddol Cymdeithas Hynafieithau Cymru ym Mhabell y Cymdeithasau 2 am 4.30 dydd Mercher Awst 3ydd.