Annwyl Gambriaid
Mae’n bleser cyhoeddi Darlith Nadolig y Cambriaid am 2024, a fydd yn cael ei chynnal ar Zoom am 7pm ar nos Fercher 11 Rhagfyr. Bydd yn cael ei thraddodi gan Michael Freeman.
Bydd Michael yn trafod y ‘Wisg Gymreig’ a wisgwyd gan ferched yng Nghymru o ganol y 18fed i ganol yr 20fed ganrif. Datblygodd y wisg o steil a wisgwyd yn bennaf gan wragedd gweithio cefn gwlad. Fe’i disgrifiwyd a’i darlunio gan sawl ymwelydd, ac fe chwareusant ran yn ei phenodi fel gwisg draddodiadol. Wrth ei defnydd ddirywio o’r 1850au ymlaen fe’i gwisgwyd fwyfwy fel ‘gwisg genedlaethol’ gan ferched o’r dosbarthiadau uchel a chanol. Bydd y sgwrs yn edrych ar natur y dystiolaeth; disgrifio’n fyr elfennau gwahaol y wisg, o’r het i’r hosannau; a chynnig arolwg o’i datblygiad dros y ddwy ganrif.
Edrychwn ymlaen i’ch gweld. Bydd manylion ymuno ar Zoom yn cael eu gyrru yn nes at y digwyddiad.
Yn gywir
Andrew Davidson
Ymddiriedolwr, Cymdeithas Hynafiaethau Cymru