Darlith Cymdeithas Hynafiaethwyr Cymru yn yr Eisteddfod (gan Ann Parry Owen) 16.30 Mercher 6ed Awst, 2025 yn Wrecsam – ymunwch â ni am ddarlith ddifyr ar y rhestrau geiriau rhyfeddol a luniodd y copïwr llawysgrifau John Jones, Gellilifdy, Sir y Fflint, yn 1632-3, tra roedd yng ngharchar y Fflyd yn Llundain fel dyledwr.

