Aberth y Derwyddon: Darganfod Cymru’r Oes Haearn ar Dir Milwrol
Gan Richard Osgood (Uwch Archeolegydd, Sefydliad Seilwaith Amddiffyn)

Ar-lein drwy Zoom: Dydd Iau 4ydd Rhagfyr am 7.00 pm
Digwyddiad i aelodau yn unig yw hwn. Bydd manylion ymuno yn cael eu ebostio i aelodau yn nes at yr amser.

Yn yr Ail Ryfel Byd, gwelodd anghenion hyfforddiant milwrol Gastellmartin yn Sir Benfro yn cael ei ddefnyddio’n helaeth gan y Fyddin. Bron i 90 mlynedd yn ddiweddarach, ac edrychodd tîm o archeolegwyr a chyn-filwyr ar gaer bentir a ystyriwyd ‘Mewn Perygl’ i ddatgelu cymaint o dystiolaeth â phosibl cyn i’r môr hawlio’r safle. Wrth i’r Ail Ryfel Byd fynd rhagddo, tarfodd gweithwyr a oedd yn carthu mawn yn ystod adeiladu maes awyr RAF Valley ar Ynys Môn ar un o’r dyddodion addunedol cyfoethocaf yn Ewrop yr Oes Haearn. Roedd olion syfrdanol cerbydau, arfau, offer ac addurniadau wedi’u bwrw i ddyfroedd dwfn y llyn dros 2000 o flynyddoedd yn ôl, fel offrymau i’r duwiau. Er bod bron i 200 o wrthrychau wedi’u casglu gan staff y maes awyr yn y 1940au, roedd llawer yn dal heb eu darganfod.

Nawr mae tîm rhyngddisgyblaethol o bersonél y Lluoedd a chyn-filwyr sy’n gwella o Ymgyrch Nightingale, y Sefydliad Seilwaith Amddiffyn ac archaeolegwyr wedi dychwelyd i’r ddau safle. Mae’r ddarlith hon yn dangos y nodweddion y maent wedi’u datgelu a’r trysorau rhyfeddol y maent wedi’u canfod…

